English

Croeso i'n gwefan

Os byddwch yn parhau i bori a defnyddio'r wefan hon rydych yn cytuno i gydymffurfio gyda, a bod yn ymrwymedig i'r, telerau defnydd a ganlyn, sydd ynghyd â'n polisi preifatrwydd yn llywodraethu ein perthynas â chi mewn perthynas â'r wefan hon.

Mae'r term ‘Isuz’ neu ‘ni’ neu ‘ein’ yn cyfeirio at berchennog y wefan gyda'i swyddfa gofrestredig yn Isuz Limited, Unit 5, Bude Business Centre, Kings Hill Industrial Estate, Bude EX23 8QN. Rhif cofrestru ein cwmni yw 4655605 wedi ei gofrestru yn Lloegr. Mae'r term ‘chi’ yn cyfeirio at y defnyddiwr neu wyliwr ein gwefan.

Mae defnydd o'r wefan hon yn destun y telerau defnyddio canlynol:

  1. Mae cynnwys tudalennau'r wefan hon ar gyfer gwybodaeth a defnydd cyffredinol yn unig. Gall newid heb rybudd.
  2. Nid ydym ni nac unrhyw drydydd partïon yn darparu unrhyw sicrwydd neu warant ynghylch cywirdeb, amseroldeb, perfformiad, natur gyflawn nac addasrwydd yr wybodaeth a'r deunyddiau a ddarganfuir neu a gynigir ar y wefan hon ar gyfer unrhyw ddefnydd arbennig. Rydych yn cydnabod bod gwybodaeth a defnyddiau o'r fath yn gallu cynnwys pethau anghywir neu gamgymeriadau ac rydym yn unswydd yn eithrio atebolrwydd am unrhyw anghywirdebau neu gamgymeriadau o'r fath i'r helaethrwydd mwyaf a ganiateir gan y gyfraith.
  3. Mae eich defnydd o unrhyw wybodaeth neu ddeunyddiau ar y wefan hon yn gyfan gwbl ar eich risg eich hun, am ba un na fyddwn yn atebol. Boed ar eich cyfrifoldeb eich hun i sicrhau bod unrhyw gynhyrchion, gwasanaethau neu wybodaeth sydd ar gael drwy'r wefan hon yn cyfarfod â'ch gofynion penodol.
  4. Mae'r wefan hon yn cynnwys deunydd sydd yn ein meddiant neu a drwyddedir i ni. Mae'r deunydd hwn yn cynnwys, ond nid yw'n gyfyngedig i, ddyluniad, cynllun, gwedd, ymddangosiad a graffig. Gwaherddir atgynhyrchu ac eithrio'n unol â rhybudd hawlfraint, sy'n ffurfio rhan o'r telerau a'r amodau hyn.
  5. Mae pob nod masnachol a atgynhyrchir ar y wefan hon nad yw'n eiddo ISUZ, nac yn drwyddedig i ISUZ, yn cael eu cydnabod ar y wefan.
  6. Gall defnydd anawdurdodedig o'r wefan hon arwain at hawl am iawndal(iadau) a /neu fod yn drosedd.
  7. O bryd i'w gilydd gall y wefan hon hefyd gynnwys dolenni i wefannau a gwasanaethau eraill. Darperir y dolenni hyn er eich hwylustod i ddarparu gwybodaeth bellach. Nid ydynt yn dynodi ein bod yn cefnogi'r (g)wefan(nau). Nid oes gennym unrhyw gyfrifoldeb am gynnwys y (g)wefan(nau) g/cysylltiedig.
  8. Gallwch greu cyswllt i dudalen hafan y wefan hon o wefan neu ddogfen arall heb ein caniatâd ysgrifenedig blaenorol. Os ydych angen cyswllt i dudalen benodol ar y wefan yna mae'n ofynnol derbyn caniatâd ysgrifenedig.
  9. Mae eich defnydd o'r wefan hon ac unrhyw anghydfod a gyfyd o ddefnydd o'r fath o'r wefan yn ddarostyngedig i gyfreithiau Lloegr, yr Alban a Chymru.
  10. Er mwyn talu am nwyddau neu wasanaethau drwy'r wefan hon, ac er mwyn cael mynediad i wasanaethau eraill, gofynnir i chi greu cyfrif neu ddefnyddio'r cyfrif a ddarperir i chi a fydd yn cynnwys rhai manylion personol. Drwy barhau i ddefnyddio'r wefan hon rydych yn cytuno:
  11. Rydych yn cydnabod bod yr ysgol ac Isuz Ltd yn cadw'r hawl i fonitro unrhyw a phob cyfathrebu a wneir â ni neu ddefnyddio ein system.
  12. Nid yw gwybodaeth cerdyn Credyd na Debyd yn cael ei gadw nac ar gael ar wefan Porth Ysgol (neu unrhyw wefan arall sydd ym meddiant Isuz Ltd) wedi cwblhau taliad. Fodd bynnag, os dewiswch arbed gwybodaeth eich cerdyn ar y safle, mae'n cael ei gadw'n ddiogel ar weinydd trydydd parti ein proseswyr talu.
  13. Nid yw Isuz Ltd yn darparu unrhyw ad-daliadau ffioedd na thaliadau. Darperir pob ad-daliad gan yr ysgol a byddant yn ddarostyngedig i delerau ac amodau a osodir gan yr ysgol.
  14. Rydym ni neu'r ysgol yn cadw'r hawl i wahardd a / neu derfynu mynediad i'ch cyfrif am unrhyw dorcytundeb yn ôl ein disgresiwn.

Ymwadiad gwefan

Mae'r wybodaeth ar y wefan hon ar gyfer gwybodaeth a defnydd cyffredinol yn unig. Darperir yr wybodaeth gan Isuz Ltd a thra'r ymdrechwn i gadw'r wybodaeth yn gyfredol ac yn gywir, nid ydym yn gwneud honiadau na gwarantau o unrhyw fath, a fynegir neu a awgrymir, ynghylch cyflawnder, cywirdeb, dibynadwyedd, addasrwydd neu argaeledd mewn perthynas â'r wefan na'r wybodaeth, y cynhyrchion, y gwasanaethau, na'r graffig perthynol a gynhwysir ar y wefan ar gyfer unrhyw bwrpas. Bydd unrhyw ddibyniaeth a roir ar wybodaeth o'r fath felly'n gyfan gwbl ar eich risg eich hun.

Ni fyddwn yn atebol o dan unrhyw amgylchiadau am unrhyw golled neu ddifrod, yn cynnwys heb gyfyngiad, golled uniongyrchol neu ganlyniadol neu ddifrod, neu unrhyw golled neu ddifrod o gwbl sy'n codi o golli data neu elw sy'n codi allan o, neu mewn cysylltiad â, defnydd y wefan hon.

Drwy'r wefan hon gallwch gysylltu â gwefannau eraill nad ydynt o dan reolaeth Isuz Ltd. Nid oes gennym unrhyw reolaeth dros natur, cynnwys nac argaeledd y safleoedd hynny. Nid yw cynnwys unrhyw ddolenni o angenrheidrwydd yn awgrymu neu gadarnhau'r farn a fynegir ynddynt.

Gwneir pob ymdrech i gadw'r wefan i redeg yn llyfn. Fodd bynnag, nid yw Isuz Ltd yn cymryd unrhyw gyfrifoldeb am, ac ni fyddant yn atebol am, ddiffyg argaeledd y wefan dros dro oherwydd materion technegol y tu draw i'n rheolaeth.